Isaiah 17

Cosbi Damascus

1Neges am Damascus.

“Edrychwch ar Damascus!
Dydy hi ddim yn ddinas bellach –
mae hi'n bentwr o gerrig! a
2Bydd ei phentrefi yn wag am byth:
lle i breiddiau orwedd
heb neb i'w dychryn.
3Bydd trefi caerog Effraim
17:3 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
,
a sofraniaeth Damascus yn diflannu.
Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syria
yn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!”

—yr Arglwydd holl-bwerus sy'n dweud hyn.
4“Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu,
a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd:
5Yn lle bod fel cae o ŷd
yn cael ei gynaeafu,
a breichiau'r medelwr yn llawn,
bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffa
yn Nyffryn Reffaïm –
6dim ond ychydig loffion fydd ar ôl.
Bydd fel ysgwyd coeden olewydd,
a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf,
a pedwar neu bump o'r prif ganghennau,”

—meddai'r Arglwydd, Duw Israel.
7Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr.
Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help,
8yn lle syllu ar yr allorau godon nhw,
polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth
– eu gwaith llaw eu hunain.

9Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw – wedi eu dinistrio'n llwyr.

10Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub;
ac anwybyddu'r Graig – dy gaer ddiogel.
Felly rwyt yn trin gerddi i'r "Anwylyd"
17:10 Anwylyd Yr enw ar ryw dduw ffrwythlondeb mae'n debyg.
,
a plannu sbrigyn i dduw estron!
11Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu;
ei weld yn blaguro y bore hwnnw
a disgwyl pentwr o gynhaeaf!
Ond y cwbl gei di fydd pryder a poen na ellir ei wella!

Duw yn cosbi gelynion ei bobl

12Gwae! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod!
Maen nhw'n rhuo fel tonnau'r môr;
Mae sŵn y rhuo fel sŵn dŵr mawr yn llifo.
13Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr,
bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi.
Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt,
neu blu ysgall o flaen corwynt.
14Fin nos, daw dychryn sydyn,
ond erbyn y bore does dim ar ôl.
Dyna fydd yn digwydd i'r rhai sy'n ein hysbeilio,
dyna sy'n disgwyl y rhai sy'n ein rheibio!
Copyright information for CYM